Y wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad yn dilyn cyfarfod y Bwrdd Taliadau 16-17 Hydref 2014

 

Annwyl Aelod Cynulliad

 

Cynhaliodd y Bwrdd Taliadau ei bumed cyfarfod yn 2014 ar 16 a 17 Hydref. Ysgrifennaf atoch i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y cynnydd a wnaed a'ch hysbysu o ddau ymgynghoriad sydd i ddod ar gynigion sy'n ymwneud â chyflogau Aelodau'r Cynulliad, ac i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y system lwfansau. Hoffwn hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am ganlyniadau ein hymgynghoriad ar Gymorth i Aelodau'r Cynulliad.

 

 

Cymorth i Aelodau'r Cynulliad

 

Trafododd y Bwrdd yr adborth ysgrifenedig o'n hymgynghoriad ar Gymorth i Aelodau'r Cynulliad, ac adroddiadau llafar o gyfarfodydd y grwpiau o gynrychiolwyr ar gyfer yr Aelodau a'u Staff Cymorth. Rydym yn ddiolchgar i bob un ohonoch a ymatebodd ac am herio ein ffordd o feddwl mewn perthynas â rhai o'r materion hyn.

 

Uwch-gynghorydd

Mae'r cynnig hwn yn rhan allweddol o nod y Bwrdd i wella capasiti strategol y Cynulliad o fis Mai 2016 ymlaen.

Er bod grŵp arwyddocaol o Aelodau'r Cynulliad yn dal i fod heb eu darbwyllo bod angen y cymorth strategol ychwanegol hwn, nodwn fod y newidiadau yr ydym wedi'u gwneud i'r cynnig (ers iddo gael ei gynnig am y tro cyntaf yn 2012) wedi'u croesawu.

Ar ôl ystyried yn fanwl y cyfrifoldebau ychwanegol y bydd yr Aelodau yn ymgymryd â hwy yn y Pumed Cynulliad ac argymhellion Comisiwn Silk, mae'n amlwg y bydd angen mwy o gapasiti. Credwn y bydd ein cynnig yn gam tuag at hyn a'n bwriad yw ei gyflwyno ym mis Mai 2016.

 

Y Cynllun Prentisiaeth

Mae ein cynnig ar gyfer cynllun prentisiaeth wedi cael cefnogaeth eang, ond mae cwestiynau anodd o hyd o ran sut y byddai'n gweithio. Rydym yn bwriadu trafod ffyrdd posibl o symud ymlaen gyda'r Comisiwn pan fyddwn yn cwrdd cyn bo hir, a nodi awydd grwpiau gwleidyddol i ymgynghori â hwy cyn gynted â phosibl.

 

Y Gronfa Polisi ac Ymchwil

 

Ar gyfer y Pumed Cynulliad, rydym yn awyddus i roi mwy o adnoddau ariannol i Aelodau'r Cynulliad er mwyn ymgysylltu â'r cyhoedd, er inni nodi bod gan rai ymatebwyr amheuon sylweddol ynghylch hyn. I'r perwyl hwnnw, byddwn yn llunio canllawiau ar gyfer cynllun peilot blwyddyn o 2016-2017 ymlaen, lle caiff y gronfa ei chynyddu i £2,500, a gallai hefyd gael ei defnyddio ar gyfer gwaith ymgysylltu. Byddwn yn sicrhau bod y Comisiynydd Safonau yn fodlon â'r canllawiau hynny, a'u bod yn darparu arweiniad clir i Aelodau'r Cynulliad ynghylch yr hyn a ganiateir ac na ganiateir. Ar ddiwedd y flwyddyn, bydd y Bwrdd yn penderfynu a ddylid parhau i ariannu gwaith ymgysylltu yn y modd hwn.

 

Bydd y gronfa yn parhau i fod yn £2,000 fesul Aelod y flwyddyn ar gyfer 2015-16. 

 

 

Pensiynau a buddion marwolaeth mewn swydd ar gyfer Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad

Mae staff cymorth yn croesawu cynnig y Bwrdd i gyflwyno budd-dal marwolaeth mewn swydd. Mae'r Bwrdd yn gobeithio na fydd angen defnyddio darpariaeth o'r fath, serch hynny, byddwn yn ceisio cyflwyno hyn cyn gynted â phosibl yn hytrach nag aros tan y Pumed Cynulliad.

 

Yn eu hymatebion i'r ymgynghoriad, dadleuodd staff cymorth hefyd fod cyfraniadau eu cyflogwyr i bensiynau yn is na'r hyn y mae gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn ei gael. Bydd y Bwrdd yn ystyried cyflogau staff cymorth fel rhan o'i adolygiad blynyddol o'r Penderfyniad yn y Flwyddyn Newydd, a bydd yn trafod hyn yn fwy manwl ar y pryd.

 

Trefniadau diswyddo ar gyfer staff cymorth

Dadleuodd staff cymorth y dylai taliadau diswyddo statudol dwbl, a gynigir gan IPSA yn San Steffan, gymryd lle'r taliadau diswyddo statudol 1.5* cyfredol a gynigir i staff cymorth yn y Cynulliad.

Fel y nodwyd eisoes, credwn pan fo staff cymorth yn cael cyfnod hir o rybudd, fod 1.5* statudol yn ddigonol.

Fodd bynnag, rydym yn cydnabod pan fo aelod o staff cymorth yn colli swydd pan fydd fod ei Aelod yn colli mewn etholiad - er enghraifft - y gall colli swydd fod yn annisgwyl iawn. Gall hyn fod yn brofiad trawmatig. O ganlyniad, rydym yn cynnig talu taliadau statudol 2*ar gyfer y staff cymorth hynny sy'n colli eu swyddi fel hyn. Byddwn yn cyflwyno'r newid hwn cyn yr etholiad sydd i ddod ym mis Mai 2016, fel y byddai staff cymorth y mae ei Aelod yn colli mewn etholiad yn derbyn taliad ar y lefel uwch.

 

Contract safonol a chyfnod rhybudd staff cymorth

Cytunwyd yn gyffredinol y byddai ymestyn y cyfnod rhybudd hwy cychwynnol ar gyfer y cyflogai a'r cyflogwr i fis yn fuddiol. Byddwn yn gwneud y newid hwn cyn gynted â phosibl.

 

Er nad ydym wedi cael unrhyw gwynion penodol, cytunodd ymgyngoreion â ni y byddai adolygiad o'r llawlyfr a'r cod ymddygiad cyn y Pumed Cynulliad yn amserol.

 

 

Cyflogau Aelodau'r Cynulliad

 

Rydym yn bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad cyhoeddus manwl ar Gyflogau Aelodau'r Cynulliad yn ystod y mis nesaf. Bydd ein hymgynghoriad yn cwmpasu cynigion ar gyfer cyflog sylfaenol yr Aelodau, a'r cyflog ychwanegol a delir i'r ystod lawn o ddeiliaid swyddi. Bydd hefyd yn cynnwys ein hamcangyfrif gorau o gyfanswm y taliadau, h.y. gan gynnwys yr elfen pensiynau a fyddai hefyd yn cael ei thalu o dan y trefniadau a gynigir gan y Bwrdd ar gyfer yr Aelodau yn dilyn yr etholiad ym mis Mai 2016.

 

Lwfansau Aelodau'r Cynulliad

 

Bydd y Bwrdd yn ymgynghori ddechrau mis Tachwedd ar ystod y lwfansau y gall yr Aelodau eu hawlio.

 

Nid ydym o'r farn y bydd angen newidiadau mawr i'r gyfundrefn lwfansau. Fodd bynnag, yn unol â'n dymuniad i gael mwy o hyblygrwydd rydym yn cynnig rhai newidiadau. Mae'r newidiadau'n ymwneud gymaint â'r ffordd y mae'r gyfundrefn yn gweithio, â'r hyn y mae'n ei chynnwys.

 

Y camau nesaf

 

Yn debyg i lythyrau blaenorol at yr Aelodau, rwyf hefyd yn bwriadu cyhoeddi'r llythyr hwn yn gyhoeddus ar ein gwefan, cyn gynted ag y bydd yr Aelodau wedi cael cyfle i'w ddarllen.

 

Byddwn yn ymgynghori ar y ddwy ffrwd pwysig hyn o waith yn y cyfnod cyn y Nadolig, a byddwn yn annog pob Aelod i gymryd rhan yn hyn. Byddwn yn parhau gyda'n dull o gwrdd â chynrychiolwyr y grwpiau ar gyfer yr Aelodau a'u staff cymorth yn ogystal â'r sesiynau galw heibio. Byddwn hefyd yn mynd i gyfarfod Comisiwn y Cynulliad ym mis Tachwedd i drafod ein rolau priodol wrth gefnogi cyfeiriad strategol y Cynulliad a meysydd sydd o ddiddordeb cyffredin. Rydym hefyd yn gobeithio cyhoeddi'r cynllun pensiwn drafft ym mis Ionawr ac rwyf yn parhau i drafod trefniadau ar gyfer y cynllun yn y dyfodol â Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr Pensiynau.

 

Yn y Flwyddyn Newydd, byddwn yn cyhoeddi pecyn drafft - gan ganiatáu i'r cyhoedd a'r Aelodau weld y darlun cyflawn o daliadau ar gyfer y Pumed Cynulliad a mynegi eu barn arno. Rydym yn parhau i fod ar y trywydd iawn i gyhoeddi Penderfyniad ar gyfer y Pumed Cynulliad ym mis Mai 2015, flwyddyn cyn yr Etholiad Cynulliad yng Nghymru.

 

Rwy'n barod iawn i gwrdd ag Aelodau Cynulliad unigol neu grwpiau plaid i drafod unrhyw agwedd ar waith y Bwrdd. Os hoffech gwrdd â mi, cysylltwch â Gareth Price, Clerc y Bwrdd, drwy anfon neges at taliadau@cymru.gov.uki wneud trefniadau. 

Sandy Blair CBE DL